Cymuned
Dechrau Arni
Mae’r Universal Viewer yn brosiect cod agored sy’n ffynnu ar gydweithio cymunedol. Mae sawl ffordd o gymryd rhan - lle gwych i ddechrau yw ymuno â’n sianel Slack a chysylltu ag aelodau eraill o’r gymuned.
Cynhelir galwad gymunedol bob mis ar ddydd Iau cyntaf y mis, ac mae’n agored i bawb. Mae’r galwadau hyn yn gyfle i drafod a datblygu pynciau sy’n ymwneud â'r UV, datrys unrhyw faterion technegol, a chysylltu â defnyddwyr eraill.
Mae ein canllaw cyfrannu yn esbonio sut i redeg, addasu a chyfrannu at y meddalwedd. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein dogfennaeth ar-lein.
Prosiectau Cymunedol
Mae ein rhaglen prosiectau cymunedol yn hanfodol i ddatblygiad y Universal Viewer, gan helpu i gadw’r prosiect yn gynaliadwy ac wedi’i alinio’n agos ag anghenion defnyddwyr. Mae croeso i unrhyw un ymuno â’r ymdrechion datblygu cydweithredol hyn, beth bynnag fo’u sgiliau technegol. Rhestrir y prosiectau sydd i ddod ar ein tudalen digwyddiadau, ac mae croeso i chi estyn allan ar Slack neu ymuno â galwad gymunedol i gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch gyfrannu.
Grŵp Llywio
Rôl y Grŵp Llywio yw darparu cyfeiriad strategol unedig a chynaliadwyedd i Gymuned yr UV, a dyrannu cronfeydd Open Collective fel y bo’n briodol.
Mae cyfrifoldebau’r grŵp yn cynnwys:
- datblygu cynnig gwerth a map ffordd rhyngsefydliadol ffurfiol ar gyfer datblygiad y Universal Viewer
- sicrhau cynaliadwyedd er mwyn galluogi perchnogaeth ar y cyd ac amrywiaeth
- gosod blaenoriaethau ar gyfer dyrannu’r cronfeydd Open Collective a dderbynnir
- trafod ceisiadau datblygu a dderbynnir drwy straeon defnyddwyr
- trafod datblygiadau sy’n deillio o brosiectau a ariennir y tu allan i’r OC
Pwy yw aelodau’r Grŵp Llywio?
Ar hyn o bryd, cyfyngir aelodaeth i gynrychiolwyr sefydliadau sy’n cyfrannu at gronfa UV Open Collective, ond mae croeso i aelodau newydd ymuno ar unrhyw adeg.
Diolch i’n cyfranwyr
Mae’r Universal Viewer yn yn datblygu drwy fewnbwn y gymuned, ac rydym yn ddiolchgar i’r cyfranwyr a’r sefydliadau y mae eu cefnogaeth yn helpu i symud y prosiect ymlaen. Mae eu cydweithrediad a’u hymrwymiad yn gwneud datblygiad parhaus a chynaliadwyedd yn bosibl.


















